P-05-956 ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Diblasi, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cau meddygfeydd
Troed-y-Bryn ym Mhenyrheol a
Lansbury yng Nghaerffili.
Mae gan y ddwy feddygfa gyfanswm o 3,962 o gleifion cofrestredig rhyngddyn nhw.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddai cau'r rhain yn creu sgil-effaith wrth i'r cleifion orfod mynd i feddygfeydd eraill.
Byddai amserau aros hirach am apwyntiadau a/neu fynediad cyfyngedig oherwydd y niferoedd.
Mae gwaith codi tai wedi'i gynllunio ym Mwrdeistref Caerffili, gan gynnwys Caerffili a'r cyffiniau, a bydd hynny'n creu cynnydd yn nifer y cleifion cofrestredig y soniwyd amdanynt.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Caerffili
· Dwyrain De Cymru